Y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael : Ffyrdd o Weithio
Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio’r cylch gorchwyl er mwyn cynnwys contractau o dan y trothwyau caffael a bennir gan Gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl diwygiedig a ganlyn:
· Pa mor effeithiol yw’r rheoliadau caffael presennol o ran y modd y maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a hynny o safbwynt cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau prynu?
· Sut y byddai’r newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddebau perthnasol yr UE yn effeithio ar y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y materion a ganlyn:
o ymgysylltiad busnesau bach a chanolig (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y broses caffael cyhoeddus;
o defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion polisi eraill (fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol);
o cymhlethdodau a hyblygrwydd rheolau caffael presennol;
o gwerth am arian i’r awdurdod prynu?